Llyfrau digidol o Gymru

Er mai nifer bychan iawn o e-lyfrau a gyhoeddir gan Cromen, mae’n fwriad pendant i ehangu’r niferoedd ac i amrywio’r teitlau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd llyfr clawr meddal yn cael ei baratoi o bob un o’r teitlau hefyd.

Ar ôl prynu llyfr digidol gan Cromen byddwch yn derbyn neges e-bost fydd yn cynnwys dolen i’w chlicio er mwyn lawrlwytho’r llyfr…

iPad, iPhone, iPod Touch -

  1. cliciwch ar y ddolen yn yr e-bost a ddaw gan Cromen, wedi i'r ffeil lawrlwytho cliciwch ar y botwm Open in iBooks
  2. pan agorwch raglen iBooks bydd eich llyfr i'w weld ar y shilff lyfrau

 

Gyda pheiriannau eraill efallai bydd angen llwytho'r llyfr o’ch cyfrifiadur cyn ei drosglwyddo…

i'w lwytho o'ch cyfrifiadur i declynnau hŷn
iPad, iPhone, iPod Touch -

  1. ychwanegwch eich llyfr i raglen iTunes wrth ddewis File > Add to Library neu wrth lusgo’r ffeil a’i ollwng ar ffenestr iTunes
  2. cysylltwch eich iPad i’ch cyfrifiadur hefo cebl USB. Yn iTunes, bydd eich iPad yn ymddangos dan bennawd Devices
  3. cliciwch ar iPad dan bennawd Devices a chliciwch ar Books yn rhan uchaf y brif ffenestr. O dan Sync Books gallwch ddewis fod y llyfrau sydd ar yr iPad yn cyfateb â’r llyfrau sydd ar eich cyfrifiadur - cliciwch Apply ar waelod dde’r ffenestr i orffen
  4. mae eich llyfr ar gael o fewn rhaglen iBooks ar yr iPad - cofiwch defnyddio eject i ddadgysylltu’r peiriannau’n ddiogel

 

i’w lwytho o’ch cyfrifiadur i Kindle -

  1. cysylltwch eich Kindle i’ch cyfrifiadur hefo cebl USB ac fe fydd eich cyfrifiadur yn adnabod y Kindle fel disg ychwanegol
  2. ar ôl clicio ac agor disg y Kindle fe welwch dri brif ffolder - Documents, Audible, a Music
  3. gosodwch eich ffeil llyfr digidol yn ffolder Documents y Kindle drwy ddefnyddio copy a paste neu wrth lusgo a gollwng
  4. mae eich llyfr ar gael ar y Kindle - cofiwch defnyddio eject i ddadgysylltu’r peiriannau’n ddiogel

 

i’w lwytho o’ch cyfrifiadur i Nook -

  1. cysylltwch eich Nook i’ch cyfrifiadur hefo cebl USB ac fe fydd eich cyfrifiadur yn adnabod y Nook fel disg ychwanegol
  2. ar ôl clicio ac agor disg y Nook fe welwch ffolder My Documents
  3. gosodwch eich ffeil llyfr digidol yn ffolder My Documents y Nook drwy ddefnyddio copy a paste neu wrth lusgo a gollwng
  4. mae eich llyfr ar gael ar y Nook - cofiwch defnyddio eject i ddadgysylltu’r peiriannau’n ddiogel. Efallai bydd angen mynd i My Library ar y Nook, yna View my documents ac yna Check for new content er mwyn i’r peiriant restru’r llyfrau newydd

english