The Happy-Go-Lucky Morgans

Edward Thomas

Mae’r teulu Morgan yn byw yn Abercorran House yn Balham - mae nhw’n gyfeillgar, yn groesawgar, ychydig yn egsentrig ac yn Gymry. Daw Arthur Froxfield yn ymwelydd cyson ac mae’n ail-adrodd straeon a glywodd yng nghwmni’r teulu - hanesion y merched elyrch, Castell y Dail a thŷ dyddiau’r flwyddyn.

Pan mae Arthur yn galw heibio Abercorran House ddi-Forgan mae’n cael ei atgoffa o’r dyddiau dreuliodd efo Philip yn crwydro’r tŷ, y caeau cyfagos a:

that three-acre field which was the garden of Abercorran House and called by us The Wilderness. Under the trees lay a pond … a pond needs nothing else except boys like us to make the best of it.

Newyddiadurwr a beirniad llenyddol oedd Edward Thomas, 1878-1917 - roedd yn ffrind agos i Robert Frost ac yn gefnogwr brwd o W H Davies. Trodd o ysgrifennu rhyddiaith i ysgrifennu barddoniaeth ym 1914 dan ddylanwad ac annogaeth Robert Frost a welodd fod elfennau barddonol cryf yng ngweithiau rhyddiaith Thomas.

Mae ei farddoniaeth wedi cael ei glodfori a’i frolio gan W H Auden, Cecil Day-Lewis, Dylan Thomas, Philip Larkin, Andrew Motion, Michael Longley ac ym 1985 disgifwyd Thomas fel …the father of us all gan Ted Hughes.

Lladdwyd Edward Thomas ar ddydd Llun Pasg 1917 ym mrwydr Arras.

The Happy-Go-Lucky Morgans, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym 1913, yw unig nofel Edward Thomas.

Epub ar gyfer Apple, Sony, Kobo

£2.45

Mobi ar gyfer Kindle

£2.45

Ar gael hefyd o –

epub ar gyfer ipad, iphone, kobo, nook, sony reader, mac, pc

Gwales £2.99iBookstore £2.99Kobo £2.99

mobi ar gyfer kindle

Amazon £3.48

papur ar gyfer eich silff lyfrau - 236 tudalen - clawr meddal - 108 x 175 x 14 mm

Amazon £10.50Lulu £10.50

Efallai fydd gennych ddiddordeb yn y teitlau hyn –

The Secret Glory
 

The Secret Glory

Arthur Machen

The Bowmen and other Legends of the War
 

The Bowmen and other Legends of the War

Arthur Machen

Rhys Lewis
 

Rhys Lewis

Daniel Owen

Enoc Huws
 

Enoc Huws

Daniel Owen

english