Arthur Machen

3 Mawrth 1863 – 15 Rhagfyr 1947

Basged £0.00
Mae Arthur Machen, 1863-1947, yn cael ei gofio fel awdur ffuglen goruwchnaturiol ac arswyd.

Yn dilyn ei gyhoeddi ym 1894, cafodd The Great God Pan ei bardduo am ei gynnwys rhywiol a dychrynllyd, ond yn fwy diweddar mae Stephen King wedi disgrifio'r nofel fel "efallai'r (stori arswyd) gorau yn yr iaith Saesneg", ac roedd yn ddylanwad ar y ffilm Pan's Labyrinth, gan Guillermo del Toro, yn 2006.

Ganwyd Arthur Llewelyn Jones yng Nghaerllion, Gwent, ond newidiodd ei enw i Machen ac fe fu'n awdur, newyddiadurwr ac actor. Gyda thad a chyndeidiau o glerigwyr Anglicanaidd roedd credoau cyfriniol ac ysbrydol Machen, ynghyd â'i ddiddordeb yn y canoloesoedd, yn arwain at greu cyfuniad arbennig o lenyddiaeth a chwedl.

Gwybodaeth o Wicipedia & The Friends of Arthur Machen

english