Erthygl cylchgrawn Barn
01/02/12 12:00 - Filed under : cromen
Cyflwyniad yng nghylchgrawn Barn i fyd e-lyfrau yn gyffredinol a rhywfaint o gefndir sefydlu Cromen gan edrych ymlaen at ddulliau newydd o gynhyrchu a chyhoeddi llyfrau.

Ffeil gyfrifiadurol ydi e-lyfr – gellir ei ddarllen ar gyfrifiadur ac ar declynnau llai fel y Kindle, yr iPad, yr iPod a’r Nook. Mae’n derm eang sy’n cynnwys amryw o fformatau gwahanol (pdf, ePub, mobi, app) ac o ran cynnwys mae e-lyfr yn amrywio o’r nofel i’r gwyddoniadur aml-gyfryngol llawn fideo a sain.
Un o’r manteision amlycaf sydd gan beiriant darllen e-lyfr dros lyfr papur yw ei faint – mae’r ddau’n mesur tua’r un faint, yn pwyso tua’r un faint ond gall y peiriant ddal tua 1,500 o lyfrau. Gallwch brynu e-lyfr unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos a chychwyn darllen o fewn eiliadau ac mae’n rhatach na llyfr papur. Mae’r teclyn yn hwylus, yn syml i’w ddeall ond yn fwy costus na thwmpath o lyfrau papur – does ’na ddim ogla papur nag inc, dim staen te, dim tywod na thiced trên rhwng y tudalennau a fyddwn i ddim yn argymell i neb ei ddarllen yn y bath. Ond dwi’n meddwl mai un o brif fanteision y teclyn yw’r gallu i chwyddo neu leihau maint y teip.
Nid yw’r e-lyfr yn fygythiad i bawb – rhaid cael awduron, rhaid mynd drwy’r drefn o gyhoeddi, golygu a marchnata pob teitl ond nid oes angen argraffu, dosbarthu na chadw stoc. Mae’r ffaith na all e-lyfr fynd allan o brint a’r posiblrwydd o argraffu copiau papur mewn niferoedd bychan ‘ar archeb’ yn elfennau i’w croesawu.
Er hynny mae cyhoeddwyr ’chydig yn ddrwgdybus o’r e-lyfr – ac mae hynny’n naturiol – un o’u pryderon yw fod modd rhannu un e-lyfr rhwng dau, dri, pumdeg, chwechant o ddarllenwyr. Mae’n bosibl cyfyngu e-lyfr i un peiriant yn enw’r prynwr, ond fe all hyn olygu na allwch ei rannu ar eich peiriannau eich hun ar gyfer eich defnydd eich hun. Dwi’n credu fod unrhyw system sy’n ‘cloi’ e-lyfr mewn perygl o godi problemau pellach ac fe allwch fod yn sicr fod rhywun sy’n benderfynol o rannu e-lyfr am ddarganfod ffordd o wneud hynny.
Yn ystod gwanwyn 2011 mi fûm yn arbrofi ym maes yr e-lyfr - roeddwn eisiau gwybod sut i’w creu, be oedd eu mantais dros lyfr papur a pham fod cymaint o bobl yn eu gweld fel bygythiad. Roeddwn am drosi nofel o bwys i e-lyfr a chan fod gen i gopi o Enoc Huws ar y shilff lle gwell allwn i ddechrau. Y broses araf oedd sganio holl dudalennau’r llyfr ac yna troi lluniau bob tudalen yn ffeil destun cyfrifiadur. Dyna pryd oedd yr arbrofi’n cychwyn – creu e-lyfr amrwd ac addasu’r ffeil hwnnw fesul dipyn ac adolygu pob addasiad er mwyn cael nofel ddarllenadwy gyda chlawr effeithiol.
Sut oedd trosi llyfr fyddai’n gymhlethach o ran ffurf a fformat y testun na nofel? Cefais ffeil ddigidol o Cartrefi Cymru oddiar wefan Project Gutenberg sy’n cynnig copiau digidol am ddim o lyfrau di-hawlfraint. Roedd gosodiad geiriau’r emynau a’r cerddi yn ogystal ag ail drefnu’r tudalennau cynnwys yn ’chydig o her.
Doeddwn i ddim wedi bwriadu gwneud dim pellach ond rŵan roedd gen i ddau e-lyfr wedi eu cwblhau. Mae’n bosibl cyhoeddi a gwerthu e-lyfrau drwy wefan www.lulu.com yn ogystal â chyhoeddi llyfrau papur ac argraffu nifer bychan iawn o gopiau. Dyma roi Enoc Huws a Cartrefi Cymru ar wefan Lulu a drwy hynny mae’r llyfrau papur ar gael ar wefan Amazon.
Mae Amazon wedi hyrwyddo eu peiriant darllen e-lyfrau – y Kindle – yn galed drwy’r flwyddyn diwethaf ac wedi gwerthu 1.2 miliwn ohonynt ym Mhrydain dros y Dolig. Gwerthir y rhan fwyaf o e-lyfrau ar gyfer y Kindle drwy’r siop Kindle ar wefan Amazon ac mae’r siop yn agored i unrhyw un gyhoeddi arni. Daeth problem i’r amlwg – nid oedd yn bosibl llwytho llyfr Cymraeg i’r siop.
Sgil-effaith y trafferth hwn oedd i mi sefydlu gwefan – www.cromen.co.uk – lle mae modd prynu e-lyfrau mewn fformatau gwahanol ar gyfer peiriannau gwahanol. Dim ond dau lyfr sydd ar gael ar hyn o bryd ond bydd llyfrau newydd yn cael eu hychwanegu bob mis – y bwriad yw cyhoeddi llyfrau Cymraeg yn ogystal â rhai Saesneg gan Gymry, am Gymru neu’n ymwneud â Chymru.
Y gwir yw fod e-lyfr yn gallu cyflawni pethau sy’n amhosibl i lyfr papur - cyhoeddwyd The Waste Land llynedd i froliant mawr – yn ogystal â darllen y gerdd mae modd gwrando ar T S Eliot, Alec Guiness, Ted Hughes neu Viggo Mortensen yn ei darllen; darllen nodiadau sy’n cyflwyno ac yn egluro cyfeiriadau sy’n y gerdd ac effaith Ezra Pound arni fel golygydd; edrych ar fideos o lenorion fel Seamus Heaney a Jeanette Winterson yn cyflwyno eu hargraffiadau. Eleni daw’r hawlfraint ar lyfrau James Joyce i ben, ac er fod ei ystâd yn gyson yn gwarchod ei waith yn dynn, mae’n sicr y caiff Ulysses driniaeth tebyg i’r Waste Land.
Fe fyddwn i’n dadlau fod datblygiad yr e-lyfr wedi rhoi rhyddid i gyhoeddwyr arbrofi hefo llyfrau papur. Rydwi wedi bod yn creu ac arddangos llyfrau-artist (llyfrau o nifer cyfyngedig sy wedi eu gwneud â llaw) ers dechrau’r 90au – ac mae’r maes wedi tyfu ymhellach yn gyflym iawn dros y deng mlynedd diwethaf. Mae cyhoeddwyr fel Visual Editions yn cynhyrchu llyfrau cwbl wreiddiol – mae nhw’n canolbwyntio ar gyflawni pethau sy’n amhosibl i lyfr digidol ac mae’n werth cymryd amser i edrych ar y broses o gynhyrchu Tree of Codes ar eu gwefan.
Newid arall amlwg ydi’r pwyslais ar lyfrau clawr caled gan gyhoeddwyr mwy traddodiadol. Efallai fod pobl yn prynu nofel fel e-lyfr ac ar ôl ei ddarllen a’i fwynhau yn penderfynu prynu copi cywrain â chlawr caled i’w gadw ar y silff neu i’w roi fel anrheg. Gyda datblygiadau fel hyn mae’r e-lyfr a’r llyfr papur yn gallu byw gyda’i gilydd yn hapus – mae un yn cyfoethogi’r llall. Menter newydd ydi Unbound sy’n defnyddio hen drefn o gasglu tanysgrifiadau i dalu am gyhoeddi – mae 5 lefel gwahanol i’r cyfraniadau: cewch gopi e-lyfr wrth gyfrannu ar lefel 1 ond wrth gyfrannu ar lefel 5 cewch gopiau clawr caled gyda’ch enw wedi ei restru yn y cefn yn ogystal â phryd bwyd yng nghwmni’r awdur.
Syndod mawr ym myd y llyfr ydi cyn lleied sydd wedi newid ers i Gutenburg argraffu ei Feibl tua 1450. Nid yw’r farchnad llyfrau Cymraeg yn ddigon mawr a chyfoethog i ddilyn rhai o’r modelau uchod ond er fod dyfodiad yr e-lyfr yn mynd i gynhyrfu rhai dyfroedd rhaid cydnabod ei fod yn cynnig cyfleoedd newydd a gwahanol i gyhoeddwyr ac i ddarllenwyr.
Un o’r llyfrau cyntaf i mi ei lawrlwytho am ddim o’r we ar ôl prynu Kindle oedd The Adventures of Tom Sawyer – nes i ddim sylweddoli am rhai wythnosau fod gen i gopi clawr meddal yn y tŷ. Mae’n braf fflicio drwy dudalennau’r llyfr a darllen pwt yma ac acw – tydi hynny ddim mor hawdd hefo’r e-lyfr – ond tra gallaf gario llyfr papur Tom Sawyer mewn poced, wrth gario’r Kindle mewn poced caiff Tom gwmni Sherlock Holmes, Wilkie Collins, Jo Nesbo, Proust, holl waith Dickens yn ogystal ag Enoc Huws.