The Road to En-dor

E H Jones

Mae The Road to En-dor yn agor yng ngwersyll carcharorion rhyfel Yozgad yn Chwefror 1917, pan mae EH Jones yn derbyn cerdyn post gan fodryb iddo –
“No news in it, but it suggests a means of passing the evenings. I’m fed up with roulette and cards myself, and I’d like to try it.”

O fewn deuddydd roedd y carcharorion yn ymarfer eu hobi newydd – siarad hefo'r meirw! Roedd eu bwrdd Ouija wedi ei adeiladu yn dilyn disgrifiad manwl y fodryb ond doedd y sesiynnau cychwynnol ddim yn argoeli'n dda.

Dechreuodd gyfnod llwyddiannus i gysylltu ag ysbrydionan pan ddaeth EH Jones a CW Hill at ei gilydd fel partneriaid wrth yr Ouija. Roedd diddordeb mawr ymysg carcharorion a staff y gwersyll yn y digwyddiadau arall-fydol hyn a dechreuodd Jones a Hill gynllwynio i ddianc drwy dwyllo’r pennaeth, Kiazim Bey.

Wrth i’r cynllun gwreiddiol ddatblygu’n gymhlethach a dryslyd, penderfynodd y Cymro a’r Awstraliad actio’n wallgof gan ddilyn cyfarwyddiadau cyd-garcharor, Doc O’Farrell. Anfonwyd y ddau i ysbyty meddwl yng Nghaergystennin er mwyn eu harchwilio, ac wedi misoedd o arddangos arwyddion realistic o’u gwallgofrwydd, cafodd y ddau eu rhyddhau bythefnos cyn y llofnodwyd y cadoediad â Thwrci.

Ganwyd EH Jones, 1883-1942, yn Aberystwyth ac fe'i addysgwyd ym Mangor, Llangernyw, Glasgow, Grenoble ac Oxford, bu'n gwasanaethu yn Burma rhwng 1906 ac 1915 cyn ymuno â Byddin India. Wedi'r rhyfel, aeth yn ôl i Burma ar ôl ymddeol fe ddychwelodd at ei deulu i Fangor. Roedd ganddo ddiddordeb mewn heddwch ac mewn addysg ac fe dreuliodd gweddill ei fywyd yn gweithio yn y brifysgol ym Mangor ac yn y coleg yn Harlech, yn ogystal ag eistedd amryw o bwyllgorau cyhoeddus.

Darllenodd Neil Gaiman y llyfr tra’n fachgen ysgol ac mae’n ei alw’n ‘fythgofiadwy’ – ‘It is a true story, underplayed, a story of heroism, of magic and of madness’. Ysgrifennodd sgript ffilm hefo Penn Jillette – sy’n enwog am Penn & Teller a Tim’s Vermeer – ond mae’n ymddangos nad oes unrhyw ddatblygiad pendant er mai Hilary Bevan Jones oedd i gynhyrchu’r ffilm, mae hi’n wyres i EH Jones.

Ond mae’r llyfr wedi ei addasu ar gyfer y sgrîn Gymraeg flynyddoedd yn ôl. Ar ddechrau’r 1980au darlledwyd drama-ddogfen Y Ffordd i En-dor fel rhan o gyfres Almanac ar S4C. Bryn Fôn a Dafydd Hywel oedd yn actio’r prif gymeriadau – Wil Aaron oedd y cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr.

Epub ar gyfer Apple, Sony, Kobo

£2.45

Mobi ar gyfer Kindle

£2.45

Ar gael hefyd o –

epub ar gyfer ipad, iphone, kobo, nook, sony reader, mac, pc

Gwales £2.99iBookstore £2.99Kobo £2.99

mobi ar gyfer kindle

Amazon £3.48

papur ar gyfer eich silff lyfrau - 496 tudalen - clawr meddal - 108 x 175 x 28.4 mm

Amazon £18Lulu £18

Efallai fydd gennych ddiddordeb yn y teitlau hyn –

The Road to En-dor

The Road to En-dor

E H Jones

In Pursuit of Spring

In Pursuit of Spring

Edward Thomas

A Poet\'s Pilgrimage

A Poet's Pilgrimage

W H Davies

Cartrefi Cymru

Cartrefi Cymru

O M Edwards

english