Super-Tramp – y gwreiddiol
16/07/12 16:07 - Filed under : llyfrau
Teithiau W H Davies ar draws Unol Daleithiau’r America a Chanada – y cardotyn-fardd o Gasnewydd yn disgrifio’r pobl a’r llefydd ddaeth ar eu traws – yn ogystal â’r digwyddiad yn Renfrew, Ontario.

George Bernard Shaw ysgrifennodd rhagair y llyfr –
“I hasten to protest at the outset that I have no personal knowledge of the incorrigible super-tramp who wrote this amazing book.”
Fe’i cyflwynwyd i waith Davies pan dderbyniodd gyfrol o’i gerddi drwy’r post ac fe fu’n hollbwysig yn cyflwyno’r gwaith at feirniaid a chyhoeddwyr. Ar yr adeg hynny ni wyddai fod Davies yn gardotyn ac yn byw mewn llety trampiaid yn Llundain.
Mae The Autobiography of a Super-Tramp ar gael fel llyfr digidol yn fformat epub a mobi drwy siop Cromen ac fel llyfr papur clawr meddal ar wefannau Amazon a Lulu – ewch i dudalen The Autobiography of a Super-Tramp am fanylion pellach.