Super-Tramp yng Nghymru
15/03/12 12:00 - Filed under : llyfrau
Taith W H Davies o Gaerfyrddin i Lundain – y cardotyn-fardd o Gasnewydd yn disgrifio’r pobl a’r llefydd ddaeth ar eu traws.

Yn A Poet’s Pilgrimage, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym 1918, mae’n teithio o Gaerfyrddin i Lundain. Mae'n disgrifio llwybr ei daith, y pobl mae'n gyfarfod ar y ffordd ac yn y tafarndai – rhai'n prynu a gwerthu, rhai'n begera - cardotwyr, bocswyr, llongwyr.
Flynyddoedd ynghynt syrthiodd Davies a malwyd ei droed tra’n ceisio neidio ar drên nwyddau yn Ontario, bu’n rhaid torri rhan isaf ei goes i ffwrdd a byth ers hynny fe fu'n gwisgo coes bren. Mae’n rhaid ei fod yn gwisgo coes bren tra’n dilyn llwybr taith A Poet’s Pilgrimage ond nid oes cyfeiriad at hynny o gwbl yn y gyfrol!
Mae A Poet’s Pilgrimage ar gael fel llyfr digidol yn fformat epub a mobi drwy siop Cromen ac fel llyfr papur clawr meddal ar wefannau Amazon a Lulu – ewch i dudalen A Poet’s Pilgrimage am fanylion pellach.