Hwyliau Mwntseison
16/07/12 16:07 - Filed under : cromen
Beth ddaw o benderfyniad Hugh Morgan i briodi? Nofel am drigolion Mwntseison gan Allen Raine.

Saif Mwntseison ar arfordir Cymru ac ym mlynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg Hugh Morgan yw Meistr y pentref a’i brif gyflogwr. Mae ei weithdy hwyliau, sy’n cael ei redeg gan Ivor Parry ac yn rhoi bywoliaeth i lawer o’r teuluoedd lleol, yn rhan bwysig o fywyd y pentref.
Un o weithwyr y gweithdy yw Gwladys Price – “a girl of eighteen, slim, tall, and of unusual beauty”.
Ganed Anne Adeliza Evans,1836-1908, yn Sir Gaerfyrddin. Daeth yn Anne Adeliza Beynon Puddicombe wedi iddi briodi ond fe ysgrifennodd dan y ffug-enw Allen Raine.
Mae Torn Sails ar gael fel llyfr digidol yn fformat epub a mobi drwy siop Cromen ac fel llyfr papur clawr meddal ar wefannau Amazon a Lulu – ewch i dudalen Torn Sails am fanylion pellach.