Tair gweledigaeth rhwng dau glawr
05/12/13 23:02 - Filed under : llyfrau
Tri llyfr wedi eu cyfuno yng nghyfrol Gweledigaethau y Bardd Cwsg.

Ellis Wynne yw sillafiad arferol enw’r awdur ond mae golygyddion a chyfieithwyr y tri llyfr sy’n y gyfrol hon yn sillafu ei enw’n wahanol i’w gilydd.
Mae fyrsiwn Saesneg-gyntaf o’r llyfr hwn ar gael hefyd – The Visions of the Sleeping Bard.
Mae Gweledigaethau y Bardd Cwsg ar gael fel llyfr digidol yn fformat epub a mobi drwy siop Cromen ac fel llyfr papur clawr meddal ar wefannau Lulu – ewch i dudalen Gweledigaethau y Bardd Cwsg am fanylion pellach.