Pethe - S4C - cyfweliad
26/03/12 22:00 - Filed under : cromen
Cyfweliad ar raglen deledu Pethe, S4C, hefo Rhun ap Iorwerth yn trafod e-lyfrau yn gyffredinol yn ogystal â chefndir Cromen.

O wefan Pethe -
Aeth Rhun i Brifysgol Bangor ymweld a Delyth Prys, yng nghanolfan Bedwyr i ddarganfod mwy am y problemau sydd wedi gwynebu e-gyhoeddi yn yr iaith Gymraeg. Mi gafodd y ganolfan technolegau iaith gomisiwn i wneud adroddiad i’r Cyngor Llyfrau ar gyhoeddi e-lyfrau yn y Gymraeg. Rhoddodd Delyth gyflwyniad i’r ymchwil yn ystod Hacio’r Iaith eleni – fideo i’w weld fan hyn. Ac os hoffech chi ddarllen yr adroddiad i gyd, dilynwch y linc o erthygl Iestyn Lloyd fan hyn.
Ac os oes ganddoch chi ddidordeb mewn cyhoeddi e-lyfrau, mae’n werth darllen erthyglau Iestyn.
Cafodd Rhun air hefyd efo Llion Jones, sydd wedi cyhoeddi (efo help ei fab hynaf) fersiwn e-lyfr o’i gyfrol Pethe Achlysurol. Mae’n cynnwys deunydd fideo a lluniau yn ychwanegol i’r llyfr print, ac mae o ar gael am ddim (i’r iPad2 yn unig).
Draw at Bedwyr ab Iestyn aeth Rhun wedyn i’w holi ynglŷn â sut yr aeth o ati i gyhoeddi fersiwn e-lyfr o Enoc Huws. Mae Bedwyr yn ddylunydd sydd wedi sefydlu sefydlu cwmni cyhoeddi Cromen, ac mae’n arbenigo mewn creu fersiynau newydd o lyfrau sydd allan o hawlfraint.
A ‘dan ni’n trafod hyn i gyd wrth i’r Cyngor Llyfrau, yn dilyn adroddiad Canolfan Bedwyr, ddecrhau gwerthu e-lyfrau trwy Gwales. Wrth ymchwilio, mae’n ymddangos bod rhai e-lyfrau yn ddrytach i’w prynu o Gwales nag o wefannau’r gweisg eu hunain. Ar gyfartaledd mae copi e-lyfr yn costio tua £1 yn llai na chopi papur.