Y nofel Gymraeg cyntaf?
27/03/13 16:00 - Filed under : llyfrau
Ai Hunangofiant Rhys Lewis yw’r nofel Gymraeg gyntaf? Yn sicr dyma gyhoeddiad diweddara Cromen.

Er protestiadau Rhys Lewis mae ei hunangofiant ar gael dros ganrif ers ei chyhoeddi.
Disgrifia Rhys Lewis ei fywyd adref gyda’i fam a’i frawd Bob, yn yr ysgol dan law llym Robyn y Sowldiwr, fel prentis yn siop Abel Hughes ac fel myfyriwr yng Ngholeg y Bala cyn cael ei benodi’n Weinidog Capel Bethel. Mae’r penodau yng nghwmni Wil Bryan a Thomas Bartley yn hwyliog a doniol ond mae tristwch mawr yng nghefndir teulu’r Lewisiaid – perthynas Robert a Mary, damwain erchyll Bob yn y pwll glo a salwch Rhys ar ôl dychwelyd i Bethel.
Roedd Daniel Owen, 1836-1895, yn deiliwr yn Yr Wyddgrug ac yn disgrifio’i gymdeithas ar ddiwedd y 19eg Ganrif. Cyhoeddwyd ei nofelau fesul pennod mewn cylchgronau a phapurau newydd: Rhys Lewis yn Y Drysorfa; Enoc Huws a Gwen Tomos yn Y Cymro.
Mae Rhys Lewis ar gael fel llyfr digidol yn fformat epub a mobi drwy siop Cromen ac fe fydd llyfr papur clawr meddal ar wefannau Amazon a Lulu cyn bo hir – ewch i dudalen Rhys Lewis am fanylion pellach.