Seamus Heaney yn ymateb i Edward Thomas

Mae’r gerdd olaf y gwyddom i Seamus Heaney ei hysgrifennu newydd ei chyhoeddi yn The Guardian.
Cyfraniad i lyfr o gasgliadau i nodi can-mlwyddiant cychwyn y rhyfel byd cyntaf yw’r gerdd. Mae In a Field yn ymateb i gerdd As The Team’s Head Brass gan Edward Thomas a ysgrifennwyd ym 1916 ychydig cyn iddo ofyn am gael ei yrru i’r ‘front’ yn Ffrainc – penderfyniad a arweiniodd at ei farwolaeth yn Arras ym 1917.

Gallwch ddarllen In a Field ac As The Team's Head Brass wrth glicio fan hyn.

Mae llyfr taith enwog Edward Thomas, In Pursuit of Spring, a’i unig nofel, The Happy-Go-Lucky Morgans, ar gael fel llyfrau digidol yn fformat epub a mobi drwy siop Cromen ac fel llyfr papur clawr meddal ar wefannau Amazon a Lulu.

english