Cyfweliad yn Golwg
27/01/14 18:50 - Filed under : cromen
Gweledigaethau’r Bardd Cwsg ar yr iPhone

“Roedd gen i ddiddordeb mewn Ilyfrau ac o’n i eisiau dysgu fy hun sut i greu e-lyfrau,” meddai Bedwyr ab lestyn sy’n ddylunydd graffeg i gwmni recordiau Sain.
Dechreuodd gyda’r nofel Gymraeg enwocaf erioed – Enoc Huws gan Daniel Owen – cyn troi at Cartrefi Cymru gan OM Edwards. “Unwaith yr oedd y rheiny gen i, ro’n i’n meddwl bod waeth i fi gario ’mlaen,” meddai.
Ar ôl cyhoeddi Teulu Bach Nantoer gan Moelona, Rhys Lewis gan Daniel Owen ac In Pursuit of Spring gan Edward Thomas, mae Ilyfr diweddaraf Cromen yn glasur o 1703 Gweledigaethau y Bardd Cwsg gan Ellis Wynne.
“Os ydi’r Ilyfr yn glasur, mae’n haeddu bod ar gael i gymaint o ddarllenwyr a phosib,” meddai Bedwyr ab lestyn sydd wedi paratoi ffurf ePub ar gyfer iPad, iPhone, Kobo, Nook, Sony Reader, Mac a PC, ac ar gyfer Mobi ar Kindle. “Gan fy mod i’n meddwl mai nofelau sy’n fwyaf addas ar gyfer e-lyfrau dw i’n dewis trosi Ilyfrau sydd â stori gref, a dw i’n gallu bod yn hunanol drwy ddewis Ilyfrau mae gen i ddiddordeb ynddyn nhw.”
Y gobaith yw y bydd “pawb i ryw raddau” yn elwa o’r ffaith bod y clasur yma ar gael fel e-lyfr, meddai.
“Yn ddelfrydol dylai fod pob Ilyfr, cân, cerdd ac ati ar gael ym mhob fformat – fel nad ydi unrhyw beth yn mynd ‘allan o brint’,” meddai Bedwyr ab lestyn. “Tydi’r ffaith fod Gweledigaethau y Bardd Cwsg yn 300 oed ddim yn golygu nad oes gwerth na mwynhad i’w gael o’i ddarllen.
“Dw i’n cofio astudio’r Ilyfr yn yr ysgol ac yn dal i gofio rhai o’r disgrifiadau o Uffern. Ro’n i wedi bwriadu gosod darluniau yn y Ilyfr, neu hyd yn oed greu fersiwn graffig Ilwyr – ond fyddai hynny ddim yn addas ar gyfer e-lyfr. Efallai rywbryd eto.”
Yn ogystal â Gweledigaethau y Bardd Cwsg a olygwyd gan D Silvan Evans, mae dau gyfieithiad Saesneg yn yr e-gyfrol, sef The Visions of the Sleeping Bard gan Gwyneddon Davies a The Sleeping Bard gan George Borrow.
Pwy oedd Ellis Wynne?
Ganed Ellis Wynne yn Y Lasynys rhwng Talsarnau a Harlech yn 1671. Bu’n rheithor, yn fardd, yn gyfieithydd ac yn frenhinwr, a bu farw yn 1734. Mae’n cael ei gofio yn bennaf am y gwaith Gweledigaethau y Bardd Cwsg sy’n dilyn y Bardd Cwsg drwy dair gweledigaeth ar drywydd taith pechaduriaid i Uffern.
Yn ôl Bedwyr ab Iestyn, mae’n Ilyfr ‘Ewropeaidd’ er bod yr iaith a’r disgrifiadau yn perthyn i gefndir Ellis Wynne yn Sir Feirionnydd ar droad y 18fed ganrif.
“Mae’r Pab ac Ewropeaid pwysig eraill yn gymeriadau,” meddai, “ac mae’r cwbl wedi ei ddylanwadu’n gryf gan waith y Sbaenwr Francisco de Quevedo ac i raddau Ilai gan waith Dante.”
Non Tudur