Chwilio am y gwanwyn

Can mlynedd yn ôl roedd misoedd cynta’r flwyddyn yn debyg iawn i’r tywydd eleni.
n-spring
Gwanwyn hwyr a’r Pasg yn gynnar… roedd hi felly hefyd ym 1913. Roedd Edward Thomas wedi blino disgwyl i’r gwanwyn gyrraedd Llundain felly aeth ar ei feic i’w gyfarfod ym mryniau’r Quantock.

Roedd Edward Thomas yn newyddiadurwr, yn feirniad llenyddol ac yn fardd Eingl-Gymreig. Trodd Thomas i ysgrifennu barddoniaeth ym 1914 pan oedd yn barod wedi gwneud enw iddo’i hun fel ysgrifennwr. Aeth i’r fyddin yn 1915 ac fe’i laddwyd ar ddydd Llun Pasg 1917 ym mrwydr Arras.

Cyhoeddwyd cofiant Matthew Hollis, Now All Roads Lead to France: The Last Years of Edward Thomas, i froliant mawr yn 2011 ac fe’i dewiswyd ar restr fer y Costa Book Award.

Mae In Pursuit of Spring ar gael fel llyfr digidol yn fformat epub a mobi drwy siop Cromen ac fel llyfr papur clawr meddal ar wefannau Amazon a Lulu – ewch i dudalen In Pursuit of Spring am fanylion pellach.

english