Teulu hapus y Morganiaid
15/03/12 11:00 - Filed under : llyfrau
Hanes teulu o Gymry yn byw yn Balham, Llundain – unig nofel y bardd a’r newyddiadurwr Eingl-Gymreig, Edward Thomas.

Roedd Edward Thomas yn newyddiadurwr, yn feirniad llenyddol ac yn fardd Eingl-Gymreig. Trodd Thomas i ysgrifennu barddoniaeth ym 1914 pan oedd yn barod wedi gwneud enw iddo’i hun fel ysgrifennwr. Aeth i’r fyddin yn 1915 ac fe’i laddwyd ar ddydd Llun Pasg 1917 ym mrwydr Arras.
Cyhoeddwyd cofiant Matthew Hollis, Now All Roads Lead to France: The Last Years of Edward Thomas, i froliant mawr yn 2011 ac fe’i dewiswyd ar restr fer y Costa Book Award.
Mae The Happy-Go-Lucky Morgans ar gael fel llyfr digidol yn fformat epub a mobi drwy siop Cromen ac fel llyfr papur clawr meddal ar wefannau Amazon a Lulu – ewch i dudalen The Happy-Go-Lucky Morgans am fanylion pellach.