Llyfrau digidol o Gymru
01/12/11 13:00 - Filed under : cromen
Ar hyn o bryd nid yw'n bosibl gwerthu llyfrau digidol Cymraeg ar siop Amazon Kindle ac mae ’na drafferthion gwneud hynny ar safle iTunes Apple hefyd.

Er mai nifer bychan iawn o e-lyfrau a gyhoeddir gan Cromen, mae'n fwriad pendant i ehangu'r niferoedd ac i amrywio'r teitlau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Llyfrau sydd bellach yn y parth cyhoeddus fydd yr e-lyfrau hyn – gan amlaf daw hawlfraint ar waith llenyddol i ben 70 mlynedd wedi marwolaeth yr awdur.
Bydd llyfr clawr meddal yn cael ei baratoi o bob un o deitlau Cromen - mae'n bosibl archebu copïau electronig neu gopïau papur.