Silff Storis
14/04/15 19:00 - Filed under : llyfrau
Llyfr i blant gan blant - project gan Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd.

Mae Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd wedi bod yn cydweithio gyda’r artist Catrin Williams a’r storïwraig Fiona Collins i gynnal cynllun stori a chelf i blant a theuluoedd y sir ers Tachwedd 2014.
Prif nod y cynllun oedd cynnal cyfres o weithdai creadigol i gasglu, creu a rhannu straeon a delweddau plant a phobl ifanc, ac mae’r gwaith hwn wedi ei gasglu a’u cyhoeddi mewn llyfr arbennig. Y gobaith yw y bydd y llyfr hwn yn annog plant a theuluoedd i fod yn greadigol ac yn codi ymwybyddiaeth o fuddion creadigrwydd ar iechyd a lles.
Mae’r llyfr Silff Storis yn cynnwys llu o straeon a delweddau wedi eu creu gan y plant gyda straeon am gowbois, dyn o’r gofod, crocodeil a chwningod anweledig yn hedfan.
Mae Silff Storis ar gael i’w lawrlwytho am ddim fel llyfr digidol mewn fformatau iPad, epub a mobi, mae ar gael i’w archebu fel llyfr clawr caled hefyd am £20, manylion llawn ar dudalen Silff Storis.