Prosiect creadigol ar gyfer plant a theuluoedd yw Silff Storis a ddyfeisiwyd gan Uned Celfyddydau Cymunedol, Cyngor Gwynedd. Bu i’r artist Catrin Williams a’r storïwraig Fiona Collins weithio gyda phlant a phobl ifanc yn Uned Y Plant, Ysbyty Gwynedd a Gwasanaeth Derwen - Tîm Integredig ar gyfer Plant Anabl i greu casgliad o straeon a gwaith celf. Cynhaliwyd cyfresi o weithdai creadigol wedi eu dyfeisio i hwyluso cyfleoedd i’r cyfranogwyr rannu straeon drwy gyfrwng y celfyddydau.
Mae’r llyfr hwn yn cyflwyno detholiad o waith y plant a grëwyd yn ystod y rhaglen; mae yma straeon lliwgar llawn dychymyg a delweddau gwreiddiol a chreadigol.




iBooks ar gyfer ipad a mac pdf ar gyfer ipad, mac, pc epub ar gyfer ipad, iphone, kobo, nook, sony reader, mac, pc mobi ar gyfer kindle papur ar gyfer eich silff lyfrau
Cliciwch 'Open in iBooks' os daw dewis
56 tudalen - clawr caled - 215 x 279 x 10 mm
Cliciwch fan hyn i weld os oes côd discownt ar gael




