Cwmni Drama Sarnau

Mwy o fanylion am y llun sydd ar glawr Storïau'r Henllys Fawr.
n-sarnau
Cwmni Drama Sarnau - cast drama Modryb Martha o 1925 . . .
rhes top o’r chwith i’r dde - Preis Rowlands, William Davies, John Griffiths, Anti Gladys, J.F. Owen
rhes flaen - Ellis D. Jones, Anti Ethel, Emily Griffith, Bob Lloyd (Llwyd o’r Bryn)

Disgrifiodd T Rowland Hughes y casgliad o straeon W J Griffith a gyhoeddwyd dan deitl Storïau’r Henllys Fawr fel “saith stori â digrifwch melys yn fwrlwm trwyddynt, a’r cymeriadau yn rhai nad anghofir mohonynt yn rhwydd, storïau y gellir troi iddynt drachefn a thrachefn, i chwerthin eto am ben helbulon pobl Llanaraf.”

Mae un o’r storïau, Antur y ddrama, ar gael am ddim – cliciwch ar y ddolen hon i’w lawrlwytho’r fformat sy’n addas i chi.

Mae casgliad llawn Storïau’r Henllys Fawr ar gael fel llyfr digidol yn fformat epub a mobi drwy siop Cromen ac fel llyfr papur clawr meddal ar wefannau Lulu – ewch i dudalen Storïau’r Henllys Fawr am fanylion pellach.

english