Un o Storïau’r Henllys Fawr –
Antur y ddrama

W J Griffith

Copi am ddim o un o Storïau'r Henllys Fawr a gasglwyd ynghŷd gan T Rowland Hughes – disgrifiodd storïau W J Griffith fel “saith stori â digrifwch melys yn fwrlwm trwyddynt, a’r cymeriadau yn rhai nad anghofir mohonynt yn rhwydd, storïau y gellir troi iddynt drachefn a thrachefn, i chwerthin eto am ben helbulon pobl Llanaraf.”

Enillodd W J Griffith wobr ym mhapur newydd Y Genedl Gymreig am ei stori Eos y Pentan yn 1924, cyhoeddwyd Yr Hen Siandri yn Y Genedl yn 1925 ac fe ymddangosodd stori newydd yn rheolaidd ganddo hyd Nadolig 1930. Casglwyd y storïau hyn at ei gilydd gan T Rowland Hughes ac fe’u cyhoeddwyd yn 1938 dan y teitl Storïau’r Henllys Fawr. Bu farw W J Griffith cyn i’r gyfrol weld golau dydd.

Darlledwyd addasiadau teledu o’r straeon gan Gareth Miles ar S4C yn yr 1980au.

Mae casgliad llawn Storïau’r Henllys Fawr ar gael i’w brynu drwy ddilyn y ddolen hon.

epub ar gyfer ipad, iphone, kobo, nook, sony reader, mac, pc

Am ddim

mobi ar gyfer kindle

Am ddim

Efallai fydd gennych ddiddordeb yn y teitlau hyn –

Rhys Lewis
 

Rhys Lewis

Daniel Owen

Enoc Huws
 

Enoc Huws

Daniel Owen

Storïau\'r Henllys Fawr

Storïau'r Henllys Fawr

W J Griffith

Gweledigaethau y Bardd Cwsg

Gweledigaethau y Bardd Cwsg

Ellis Wynne

english